Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofrestru

Drwy gofrestru, gallwch ddefnyddio rhai o gyfleusterau arbennig y wefan. Caiff  y cyfleusterau hyn eu cymedroli i sicrhau mai dim ond defnyddwyr sydd â chyfeiriad e-bost dilys sy’n gallu defnyddio’r wefan. Bydd angen i chi hefyd dderbyn amodau a thelerau’r safle. Mae hyn yn ein helpu ni i ofalu nad yw unigolion yn difrodi’r gwasanaethau a gynigir ar y wefan

Cwblhau'r Ffurflen Gofrestru

Cofrestru

Enw: Dyma'r enw a fydd yn ymddangos ar eich e-bost hysbysu, ar ddeisebau electroneg, a chyferbyn a'ch sylwadau ar unrhyw fforymau trafod.
cyfeiriad e-bost: I'r cyfeiriad yma y byddwn ni'n anfon ein holl ohebiaeth atoch chi, gan gynnwys yr e-bost sy'n cynnwys y ddolen gyswllt i wneud eich cyfrif yn fyw.
Cyfrinair: Mae'n rhaid i'ch cyfrinair fod rhwng 4 a 12 llythyren neu rif o hyd.

A allwn gysylltu a chi?

Mae'n bosib y byddwn yn cysylltu a chi o bryd i'w gilydd i ofyn am eich sylwadau neu adborth am y safle, unai drwy e-bost, drwy'r post neu dros y ffôn. Os ydych yn fodlon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gysylltu a chi, ticiwch y blwch 'Ie' os gwelwch yn dda.

Cliciwch i danysgrifio

Mae'n bosib y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi cylchlythyr electroneg yn y dyfodol, a fydd yn cael ei anfon mewn e-bost i ddefnyddwyr cofrestredig. Os hoffech dderbyn cylchythyr, ticiwch y blwch 'Ie' a dewiswch pa iaith yr hoffech ei dderbyn.

Telerau ac Amodau

Mae'n rhaid i chi dderbyn telerau ac amodau y safle cyn y gallwch gofrestru.

Wedi i chi gyflwyno'r ffurflen gofrestru, byddwn yn anfon e-bost i'r cyfeiriad ar y ffurflen a fydd yn cynnwys dolen gyswllt. Mae'n bosib y bydd yr e-bost yn cymryd ychydig o funudau i'ch cyrraedd. Wedi ei dderbyn, bydd angen i chi glicio ar y ddolen er mwyn i'ch cyfrif ddod yn fyw.
Os ydych wedi cyflwyno'r ffurflen, ond heb dderbyn e-bost gan Wefeistr Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cysylltwch a ni os gwelwch yn dda.  

Tanysgrifio

Gall defnyddwyr danysgrifio i ddweud pa adrannau o’r wefan y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Cewch ragor o fanylion am danysgrifio ar dudalen cymorth ar danysgrifio.

Fforwm

Byddwch hefyd yn gallu anfon sylwadau i unrhyw un o’r fforymau ar y wefan. Cewch ragor o fanylion am y fforwm yn y canllawiau i’r fforwm.