Crynodeb o Lwfansau Aelodau’r Cynulliad ar gyfer y Flwyddyn Ariannol o fis Ebrill 2008 i fis Mawrth 2009

Gellir gweld y lwfansau ar gyfer pob Aelod Cynulliad yn y flwyddyn ariannol uchod yn y System Cyhoeddi Lwfansau neu'r Crynodeb o Lwfansau Aelodau'r Cynulliad (PDF)

Isod ceir trosolwg byr o lwfansau Aelodau’r Cynulliad a restrir yn y system.

Lwfans Costau Swyddfa

Gallai Aelodau’r Cynulliad hawlio Lwfans Costau Swyddfa o hyd at £15,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol uchod i dalu costau dodrefnu a chynnal a chadw swyddfa os yw’r costau hynny’n codi’n llwyr ac yn angenrheidiol oherwydd eu dyletswyddau fel Aelodau Cynulliad ac yn ymwneud yn gyfan gwbl â’r dyletswyddau hynny a dim arall.

Gall Aelodau’r Cynulliad wneud cais hefyd am swm ychwanegol o Lwfans Costau Swyddfa ar gyfer unrhyw swm o fwy na £2,000 a gaiff ei wario mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ragofalon diogelwch a gwella mynediad i’w swyddfeydd.  

Lwfans Costau Ychwanegol

Mae’r Lwfans Costau Ychwanegol yn ad-dalu Aelodau am dreuliau angenrheidiol sy’n codi oherwydd eu bod yn aros oddi cartref dros nos oherwydd eu dyletswyddau fel Aelodau yn hytrach na dychwelyd i’w prif gartref.

Gallai’r Aelodau hynny y mae eu prif gartref yn un o’r etholaethau a ganlyn wneud cais am hyd at £4,100 i dalu am gostau unrhyw lety dros nos oddi cartref.

- Caerffili, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Pontypridd, Bro Morgannwg.

Gallai’r Aelodau hynny nad yw eu prif gartref yn un o’r etholaethau a restrir uchod wneud cais am hyd at £13,000 i dalu am gostau unrhyw lety dros nos oddi cartref. Fe'i telir hefyd i helpu â chostau’r Aelod i ddarparu ail gartref yng Nghaerdydd gan gynnwys eitemau megis dodrefn, llog morgais a rhent.

Teithio

Disgwylir i’r Aelodau deithio ar fusnes y Cynulliad o fewn Cymru gan ddefnyddio’r dull mwyaf cost-effeithiol, gan roi ystyriaeth i union gost y daith a chostau aros dros nos.

Gall Aelodau deithio ar draul y cyhoedd i fannau eraill yn y DU ar fusnes y Cynulliad. Er mwyn bod yn gymwys rhaid i’r daith gael ei chymeradwyo o flaen llaw a rhaid iddi gydymffurfio ag un o'r gofynion a ganlyn:

• Mae’r daith at ddiben y Cynulliad

• Mae’r daith yn ymwneud â mater sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, neu gerbron un o’r Pwyllgorau y mae’r Aelod yn ei wasanaethu

• Mae'n berthnasol i etholaeth, neu'n ymwneud â mater o ddiddordeb cyffredinol i'r etholaeth

Mewn unrhyw flwyddyn, mae hawl gan bob Aelod i wneud tair taith ddwyffordd rhwng y Deyrnas Unedig ac unrhyw un o Sefydliadau'r Gymuned Ewropeaidd ym Mrwsel, ac un daith ddwyffordd i unrhyw un o Sefydliadau'r Gymuned Ewropeaidd yn Lwcsembwrg neu Strasbwrg neu senedd genedlaethol unrhyw aelod-wladwriaeth arall o'r Undeb Ewropeaidd. Yn y naill achos a’r llall, rhaid i brif bwrpas y daith fod yn gysylltiedig â chyfrifoldebau'r aelod fel Aelod o'r Cynulliad.

Caiff Aelod ofyn am ganiatâd y Prif Weithredwr a’r Clerc i ymweld â senedd, cyngor neu gynulliad rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i'r cais ddangos yn glir fanteision tebygol yr ymweliad i fusnes neu fuddiannau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a nodi'n glir y bobl neu'r sefydliadau y byddant yn ymweld â nhw. Bydd unrhyw ymweliad o dan y paragraff hwn yn lle ymweliad y gellid bod wedi’i wneud fel arall i unrhyw un o Sefydliadau’r Gymuned Ewropeaidd yn Lwcsembwrg neu Strasbwrg neu senedd genedlaethol unrhyw aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd.

Telir Cyfraddau Fesul Milltir a Gymeradwyir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’r rheiny sy’n teithio mewn car, ar feic modur ac ar feic:

Hyd at 10,000 o filltiroedd

               Dros 10,000 o filltiroedd

Lwfans fesul milltir mewn car

40c y filltir

25c y filltir

Lwfans beic modur

24c y filltir

24c y filltir

Lwfans beic

20c y filltir

20c y filltir

Caiff Aelod hawlio cost 12 taith y flwyddyn ar gludiant cyhoeddus neu mewn car gan ei b(ph)artner ac unrhyw blant dan ddeunaw oed rhwng Caerdydd a'r etholaeth, neu Gaerdydd a phrif gartref yr Aelod hwnnw.

Aelodau - Cwestiynau Cyffredin

Sut i chwilio’r System Cyhoeddi Lwfansau

Yn yr adran hon

    Partneriaid a Help