Y Panel Adolygu Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau’r Cynulliad

Y Panel
Sefydlwyd y Panel Adolygu Annibynnol gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Awst 2008 i edrych ar yr holl agweddau ar gymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad; gan gynnwys cyflogau a lwfansau am drefniadau teithio, llety, swyddfeydd etholaethau a staff cymorth.
Cadeiriwyd y panel gan Syr Roger Jones, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Aelodau eraill y panel oedd y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, Nigel Rudd, a Jackie Nickson. Gellir gweld bywgraffiadau aelodau’r panel yma.
Cynhaliodd y panel adolygiad o’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad gan edrych ar arfer gorau; derbyn tystiolaeth am faterion perthnasol; ac ymgynghori â chyrff a rhanddeiliaid perthnasol a’r cyhoedd.
Lluniodd y panel adroddiad, yn dwyn y teitl ‘Yn Gywir i Gymru’, a oedd yn cynnwys cyfres o awgrymiadau a fydd yn creu proses deg, gyfiawn a thryloyw o roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.
Lawrlwytho adroddiad y Panel Annibynnol ar gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad (PDF, 3MB)
I archebu fersiwn printiedig o'r adroddiad, anfonwch ebost at independentreviewpanel@wales.gsi.gov.uk
Derbyniodd y Comisiwn bob un o’r 108 awgrym yn llawn ar 7 Gorffennaf 2009 a gwnaeth y Llywydd ddatganiad ar hynny yn ystod y Cyfarfod Llawn y diwrnod canlynol.
Dyddiadur Gweithredu'r Awgrymiadau
Gan fod mwy o waith paratoi ar weithredu rhai o awgrymiadau’r panel nag eraill, gan gynnwys, mewn rhai achosion, sefydlu mecanweithiau sy’n galluogi eu gweithredu neu drefniadau trawsnewidiol, penderfynodd Comisiwn y Cynulliad weithredu’r awgrymiadau mewn pedwar cam. Dyddiadur Gweithredu'r Awgrymiadau >>
Gwaith y panel blaenorol
Sefydlwyd y panel adolygu annibynnol gan y Comisiwn yn dilyn argymhelliad yn adroddiad cyntaf y Panel Annibynnol ar Gymorth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2008. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am yr adroddiad a'r panel yn yr adran yma. Gwaith y panel blaenorol >>
Gwybodaeth ar Lwfansau Aelodau
Caiff Aelodau'r Cynulliad hawlio lwfansau i dalu costau megis costau swyddfa a chostau y mae'n rhaid iddynt eu hysgwyddo er mwyn cyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau. Mae adran hon yn cynnwys manylion am lwfansau cyfredol, ac am gynllun pensiwn yr Aelodau.
Gwybodaeth ar Lwfansau Aelodau >>
Cyfarfodydd Cyhoeddus / Galwad am Dystiolaeth
Clywyd tystiolaeth mewn dau gyfarfod cyhoeddus a chafwyd saith deg pedwar o ymatebion ysgrifenedig gan unigolion a sefydliadau yn dilyn yr alwad am dystiolaeth. Cyfarfodydd Cyhoeddus / Galwad am Dystiolaeth >>