Gwaith y Panel blaenorol - y Panel Annibynnol ar Gymorth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad
Yn ystod hydref 2007, penderfynodd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn i banel o bedwar o bobl annibynnol ac un o gomisiynwyr y Cynulliad (heb bleidlais) am argymhellion ynghylch y cyflogau, y pensiynau a’r lwfansau sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad. Mae’r panel adolygu wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n cyfleu ei ganfyddiadau a’i argymhellion, ynghyd â’r rhesymau drostynt, mewn cysylltiad â chyflogau a lwfansau.
Gwnaeth y panel nifer o argymhellion, a oedd yn cynnwys cynnal archwiliad sylfaenol o gyflogau Aelodau’r Cynulliad a’r system cymorth ariannol sydd ar gael iddynt o dan y setliad datganoli sy’n datblygu. Bydd hyn yn caniatáu profiad pellach o bwerau newydd y Cynulliad wrth i’r pwerau hynny ddatblygu i lywio’r adolygiad, a mabwysiadu dull newydd, wedi’i deilwra ar gyfer y Cynulliad, sy’n effeithiol, yn glir, yn dryloyw ac yn syml.
Felly, sefydlodd y Comisiwn, Panel Adolygu Annibynnol pellach ym mis Awst 2008 er mwyn gweithredu’r argymhelliad hwn.
Adroddiadau
Gellir gweld y papurau a'r Adroddiad a gyflwynwyd i'r Panel yn yr adran yma.
Adroddiadau >>
Aelodaeth
Gellir gweld rhestr o aelodau'r Panel yn yr adran hon.
Aelodaeth >>
Galw am Dystiolaeth
Mae’r Panel wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth. Ewch i'r adran yma am fwy o wybodaeth.
Galw am Dystiolaeth >>