Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Panel Annibynnol ar Gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad - Cylch Gorchwyl

"Cynnal adolygiad o’r Cyflogau, y Pensiynau a’r Lwfansau sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad"

Bydd y Panel Adolygu’n ystyried y canlynol fel rhan o’r adolygiad hwn:

  • Pa dasgau y mae disgwyl i Aelodau’r Cynulliad ymgymryd â nhw?
  • Sut y mae gwaith Aelod Cynulliad yn debygol o newid yn sgil gweithredu Deddf Llywodraeth Cymru 2006?
  • Sut y mae gwaith Aelod Cynulliad yn camharu â gwaith Aelod Seneddol, Aelod Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon neu swyddi perthnasol eraill yn y sector cyhoeddus?
  • Beth yw’r cyflog priodol am ymgymryd â’r swyddi a ganlyn:
    - Prif Weinidog Cymru;
    - Gweinidogion Cymru;
    - Y Cwnsler Cyffredinol
    - Dirprwy Weinidogion
    - Y Llywydd
    - Y Dirprwy Lywydd
    - Arweinwyr y Gwrthbleidiau/Grwpiau
    - Cadeiryddion y Pwyllgorau (a pha Gadeiryddion ddylai gael cyflog ychwanegol)
    - Aelodau o Gomisiwn y Cynulliad
    - Prif Chwipiaid/Rheolwyr Busnes y Pleidiau/Grwpiau
    - Unrhyw swyddi eraill a nodir gan y panel
  • Pa dasgau y disgwylir i’r arweinwyr plaid ymgymryd â nhw ac a ddylai eu cyflog fod yn amodol ar nifer yr Aelodau yn y blaid ac, os felly, beth ddylai’r nifer hon fod?
  • Pa adnoddau sydd eu hangen i alluogi Aelodau Cynulliad i ymgymryd â’u tasgau’n effeithiol ac yn effeithlon ar ran eu hetholwyr a’r Cynulliad?
  • Pa adnoddau y dylid eu darparu’n ganolog, neu drwy ffyrdd eraill o ddarparu cymorth ariannol a pha adnoddau y dylid eu darparu drwy Lwfansau?
  • Sut y dylid trefnu tâl i Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad?
  • Pa gymorth y dylid ei roi i gyn Aelodau pan fyddant yn gadael?

Bydd y Panel Adolygu’n gofyn i Aelodau’r Cynulliad gyflwyno tystiolaeth, ynghyd ag unrhyw berson, plaid neu gorff arall, fel y gwêl orau, a’r panel fydd yn penderfynu sut i gynnal yr adolygiad.   

Mae’n bosibl y bydd y Panel Adolygu’n cymharu systemau cymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru â systemau tebyg yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Bydd y Panel Adolygu’n paratoi adroddiad yn gosod allan ei gasgliadau a’i argymhellion ar gyfer cyflogau, ac yn nodi’r rhesymau dros yr argymhellion hynny. Bydd yn cyflwyno’r adroddiad gerbron Comisiwn y Cynulliad erbyn diwedd mis Ionawr 2008. Disgwylir y bydd yr adolygiad o lwfansau’n cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill 2008.