Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Croeso i wefan Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn berson annibynnol a benodir gan y Cynulliad. Mae'r Comisiynydd yn rhoi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad ac mae'n cynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion bod Aelodau'r Cynulliad wedi torri Protocolau, Codau neu benderfyniadau'r Cynulliad.

Mae'r Comisiynydd wedi ymrwymo i:

  • ·Creu cyfundrefn safonau gadarn oddi mewn i'r Cynulliad Cenedlaethol;
  • ·Gweithio gyda phob Aelod Cynulliad ar unrhyw fater sy'n ymwneud â safonau;
  • ·Sicrhau bod y broses safonau yn agored ac yn dryloyw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch rôl y Comisiynydd Safonau, mae croeso i chi gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd. Dyma'r manylion:

Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Rhif ffôn: 029 20898210
Ffacs: 029 20898936

E-bost: Commissioner@wales.gsi.gov.uk

Rhowch wybod i'r Comisiynydd os oes gennych unrhyw ofynion penodol (er enghraifft, os hoffech dderbyn gohebiaeth gan y Comisiynydd ar ffurf benodol, megis print bras).