Y Weithdrefn ar gyfer Delio â Chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad (y Weithdrefn Gwyno)
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi sefydlu gweithdrefn ffurfiol ar gyfer delio â chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad. Ystyriwyd nifer o bethau wrth lunio'r weithdrefn, yn cynnwys:
darpariaethau unigryw Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n nodi bod cymryd rhan mewn trafodion gan beidio â datgan/cofrestru buddiant yn drosedd;
y mathau o gwynion y gallai/dylai'r Cynulliad eu hystyried
perthynas y Pwyllgor â'r Comisiynydd Safonau.
Cymeradwyodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad y Weithdrefn Gwyno yn ffurfiol ar 3 Mehefin 2008, ac mae'n ffurfioli'r camau sy'n ofynnol mewn unrhyw ymchwiliad i gwyn a wnaed yn erbyn Aelod Cynulliad.
Mae'r weithdrefn ar gael isod:
Y Weithdrefn ar gyfer Delio â Chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad (y Weithdrefn Gwyno)
Os oes gennych unrhyw sylwadau/ymholiadau ynglyn â'r weithdrefn gwyno, cysylltwch â swyddfa'r Comisiynydd, neu Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=231
Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8948
Ffacs: 029 2089 8117
E-bost: comisiynydd.safonau@cymru.gov.uk
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cynul
liad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2082 1821
E-bost: safonau@cymru.gov.uk
Cwynion a Gyfeirir at y Pwyllgor Safonau gan y Comisiynydd Safonau
Caiff adroddiadau ynghylch cwynion a ystyrir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad eu cyhoeddi, a gellir eu gweld ar wefan y Pwyllgor: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=231
