Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cwyno

Sut mae mynd ati i wneud cwyn?

Dylech anfon unrhyw gwynion at Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfeiriad isod:

Y Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

E-bost: Commissioner@wales.gsi.gov.uk

Pryd fo cwyn yn dderbyniol?

Yn y Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad, amlinellir y meini prawf ar gyfer sicrhau bod cwyn yn dderbyniol. Rhaid i gwyn fodloni 6 maen prawf cyn iddi fod yn dderbyniol. Mae cwyn yn dderbyniol:

  1. os caiff ei chyflwyno'n ysgrifenedig;  
  2. os yw'n ymwneud ag ymddygiad Aelod Cynulliad;
  3. os nad yw'n ddienw ac os yw'n nodi pwy yw'r achwynydd yn glir mewn modd sy'n golygu y gellir cyfathrebu ymhellach ag ef/hi;
  4. os yw'n nodi'n glir pwy yw'r Aelod Cynulliad sy'n destun y gwyn;
  5. os y'i gwneir o fewn blwyddyn o'r dyddiad pan allai'r achwynydd fod wedi dod yn rhesymol ymwybodol o'r ymddygiad y cwynir yn ei gylch;
  6. yw'n ymddangos bod digon o sylwedd i gyfiawnhau ymchwiliad pellach (h.y. mae digon o dystiolaeth i awgrymu bod yr ymddygiad dan sylw wedi digwydd, a phe bai hynny’n cael ei brofi, gallai olygu bod yr Aelod heb gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion Rheolau Sefydlog 16.1(i)

Ceir rhagor o wybodaeth yn y daflen 'Sut i gwyno'. Cewch ragor o gyngor a gwybodaeth o Swyddfa'r Comisiynydd yn y cyfeiriad uchod neu drwy ffonio 029 2089 8210.

Y Weithdrefn ar gyfer Delio â Chwynion