Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mr Richard Penn

Cafodd Mr Penn ei eni a'i fagu yn Ne Cymru a graddiodd mewn economeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Ar ôl dilyn cwrs ôl-radd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe a dysgu am ychydig yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, ym 1971 dechreuodd ar ei yrfa a barodd 27 mlynedd gyda llywodraeth leol gan weithio i Gyngor Sir Morgannwg fel Cyfarwyddwr prosiect Datblygu Cymunedol Cwm Afan Uchaf.  

Bu'n gweithio ar lefel uwch o fewn sawl awdurdod yng Nghymru a Lloegr cyn cael ei benodi'n Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Chlerc Awdurdod Heddlu Glannau Mersi ym 1980.

Ym 1989 cafodd ei benodi'n Brif Weithredwr Cyngor Dinas Bradford, yr awdurdod metropolitan mwyaf ond tri, ac ymddeolodd yn gynnar o'r swydd honno ddiwedd 1998. Yn fuan wedyn, symudodd yn ôl i Gymru.

Ers hynny mae wedi datblygu portffolio o waith yn y sector cyhoeddus o'i leoliad newydd ym Mhenarth, lle mae'n byw gyda'i wraig Jill sy'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg. Mae'r portffolio hwnnw'n cynnwys Cadeirio Bwrdd Prawf De Cymru a gwaith ymgynghorol mewn awdurdodau lleol.  

Bu Mr Penn yn Gomisiynydd y Comisiwn Cyfle Cyfartal rhwng 1997 a 2002 ac yn Aelod o'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol rhwng 2000 a 2003.

Cyn hyn, Mr Penn oedd Cynghorydd Annibynnol ar Safonau y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y cynnig a basiwyd ar 2 Mawrth 2005 yn paratoi'r ffordd ar gyfer penodi Comisiynydd Safonau cyntaf y Cynulliad, a oedd yn disodli swydd y Cynghorydd Annibynnol.