Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol
Ar 15 Mawrth 2005, penodwyd Richard Penn yn Gomisiynydd Safonau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Fe'i penodwyd gan y Cynulliad yn dilyn proses recriwtio agored ac yn unol â'r trefniadau a wnaed gan y Llywydd.
Roedd y trefniadau hynny'n adlewyrchu egwyddorion y Cod Ymarfer ar Benodiadau i Gyrff Cyhoeddus, er na wnaed y penodiad o dan y Cod hwnnw.
Gwneir y penodiad yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad ac felly nid yw'n benodiad statudol. O dan Reol Sefydlog 16.3, gellir penodi person nad yw'n Aelod Cynulliad nac yn aelod o staff y Cynulliad yn Gomisiynydd Safonau. Prif ddyletswyddau'r Comisiynydd yw:
- ·ymchwilio i faterion ffeithiol sy'n codi o unrhyw gwyn yn erbyn Aelod;
- ·rhoi cyngor i'r Pwyllgor ar unrhyw fater o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yr Aelodau;
- ·rhoi cyngor i'r Pwyllgor ar unrhyw fater o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â Chofrestr Buddiannau'r Aelodau a Chofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau;
- ·fel arall, rhoi cymorth o'r fath ar faterion sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yr Aelodau y gallai'r Cynulliad benderfynu yn eu cylch o bryd i'w gilydd.