Etholwyd Joyce Watson i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2007. Mae’n aelod o’r Is-bwyllgor Darlledu, y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4. Mae Joyce hefyd yn llefarydd Llafur Cymru yn y Cynulliad ar Faterion Gwledig ac mae’n aelod o Gorff Rhyng-seneddol Prydain ac Iwerddon. Mae’n gadeirydd y Grwp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Menywod a Phlant ac yn is-gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Plant sy’n Derbyn Gofal ac Anhwylderau Bwyta. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n dioddef strôc, datblygu economaidd, llywodraeth leol, tlodi gwledig, menywod a merched mewn chwaraeon a diogelwch ar y ffyrdd.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun