Cawsom ein comisiynu gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal adolygiad o’r cymorth ariannol a gaiff Aelodau’r Cynulliad. Mae manylion cylch gorchwyl yr adolygiad a gwybodaeth am aelodau'r panel i’w cael ar y wefan hon.
Bydd ein hadolygiad yn edrych ar yr adnoddau a’r cymorth y mae eu hangen ar Aelodau er mwyn iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau wrth iddynt wasanaethu’r Cynulliad a’u hetholwyr.
I’n helpu gyda’r gwaith hwn, rydym yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch unrhyw agwedd ar y lwfansau y mae eu hangen ar Aelodau er mwyn iddynt fedru cyflawni eu dyletswyddau.
Yn benodol, byddem yn croesawu tystiolaeth yn ymwneud â’r materion a ganlyn:
Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn anfon tystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 18 Ionawr, 2008 mewn perthynas â chyflogau ac erbyn dydd Gwener 22 Chwefror mewn perthynas â lwfansau. Mae croeso i chi gyflwyno’ch holl dystiolaeth erbyn y terfyn amser cyntaf. Dylech anfon eich tystiolaeth naill ai’n electronig i Pay&allowancesreview@wales.gsi.gov.uk neu ar ffurf copi caled i’r Adolygiad o Gyflogau a Lwfansau d/o Tîm Lwfansau ac Adnoddau Dynol yr Aelodau.
Manylion y cyflogau a’r lwfansau sy’n daladwy i Aelodau'r Cynulliad - dogfen PDF
Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu sut y bydd y Panel Adolygu’n ymdrin ag unrhyw wybodaeth a gaiff ei hanfon o ganlyniad i’r alwad am dystiolaeth ac unrhyw ohebiaeth ddilynol.
Byddwn yn cyhoeddi unrhyw dystiolaeth berthnasol a gaiff ei chyflwyno i ni ar ein gwefan. Gan hynny, os ydych am i ni drin eich tystiolaeth yn gyfrinachol, neu os ydych am i ni ei chyhoeddi’n ddienw, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Panel Adolygu cyn i chi gyflwyno’ch tystiolaeth, drwy anfon e-bost atynt: Pay&allowancesreview@wales.gsi.gov.uk Bydd angen i chi roi rhesymau cryf iawn cyn y byddwn yn cytuno i drin eich tystiolaeth yn gyfrinachol.
Weithiau, ni fyddwn yn cyhoeddi’r holl dystiolaeth a gaiff ei hanfon atom. Mae’n bosibl mai rhesymau ymarferol neu gyfreithiol sy’n gyfrifol am hyn. Gall y rhesymau ymarferol gynnwys achosion lle ceir nifer fawr o gyflwyniadau tebyg. Yn yr achosion hyn, byddwn, fel arfer, yn cyhoeddi dim ond rhestr o enwau’r bobl sydd wedi cyflwyno tystiolaeth.
Yn ogystal â hyn, dan rai amgylchiadau gallwn benderfynu peidio â chyhoeddi’ch tystiolaeth neu ei golygu cyn ei chyhoeddi, am resymau cyfreithiol.
Pan fyddwn yn cyhoeddi’ch tystiolaeth, ni fyddwn yn cyhoeddi’ch llofnod nac unrhyw fanylion cysylltu personol (e.e. rhif ffôn neu gyfeiriad eich cartref).
Mae’n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i ni olygu gwybodaeth os yw’n enwi person sy’n dal yn fyw ac sydd heb roi caniatâd penodol i wybodaeth amdanynt fod yn wybodaeth gyhoeddus ond, dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Panel Adolygu’n cael gweld eich tystiolaeth lawn, hyd yn oed oes nad yw wedi’i chyhoeddi’n llawn.
Os ydych yn credu y gall y dystiolaeth rydych am ei chyflwyno greu problemau o ran y Ddeddf Diogelu Data, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Panel Adolygu cyn i chi gyflwyno’ch tystiolaeth.
Defnyddiau a all fod yn ddifrïol
Ni fydd y Panel Adolygu’n cyhoeddi datganiadau neu ddefnyddiau difrïol. Os credwn fod eich cyflwyniad yn cynnwys sylwadau a all fod yn ddifrïol, byddwn, fel arfer, yn ei anfon yn ôl atoch gan ofyn i chi ddangos tystiolaeth i gadarnhau’r sylwadau neu eu dileu. O dan yr amgylchiadau hyn, os caiff y dystiolaeth ei hanfon yn ôl atom heb ddileu’r sylwadau a allai fod yn ddifrïol, ni fydd y Panel Adolygu’n ei hystyried ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ei dinistrio.