Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Panel Annibynnol ar Gymorth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad - Aelodaeth

Dyma aelodau’r Panel:-

  • Syr Michael Wheeler-Booth (Cadeirydd), aelod o Gomisiwn Richard a chyn Glerc y Seneddau. Ar hyn o bryd mae’n ddarlithydd yn r adran wleidyddiaeth Coleg Magdalen, Rhydychen.
  • Mair Barnes, a benodwyd yn ddiweddar fel un o gynghorwyr anweithredol y Comisiwn. Mae ganddi hanes o lwyddo fel arweinydd cwmnïau mawr;
  • Eileen Heasman, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol;
  • Yr Athro Steven Martin o Ysgol Fusnes Caerdydd, arbenigwr yn y sector cyhoeddus ac ef oedd cynghorydd academaidd Adolygiad Beecham i’r Adolygiad o Wasanaethau Lleol yng Nghymru;
  • Bydd William Graham AC, Comisiynydd sy’n gyfrifol am Adnoddau’r Cynulliad, yn eistedd ar y Panel fel cynrychiolydd y Comisiwn.
    (Fel Aelod Cynulliad, mae gan Mr Graham fuddiant yn argymhellion y Panel, ac mae wedi nodi nad yw’n teimlo y byddai’n briodol iddo bleidleisio ar faterion y mae ganddo fuddiant ynddynt).

Bydd staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cymorth i’r Panel, yn enwedig y canlynol:

  • Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu'r Cynulliad: mae hi’n gyfrifol yn awr am gyllid, adnoddau dynol, TGCh, cyfathrebu allanol a rheoli cyfleusterau. Bu’n gweithio gynt fel cyfreithiwr ac fel cyfarwyddwr llywodraeth leol;
  • Wayne Cowley, Pennaeth Gwasanaethau Busnes yr Aelodau yn y Cynulliad sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu’r system bresennol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau ac sydd wedi cynorthwyo ag adolygiadau yn y gorffennol; bydd aelodau eraill ei dîm hefyd yn cynorthwyo;
  • Bydd Ian Summers hefyd yn rhoi cyngor i’r Panel. Mae’n gyn bartner yn Swyddfa Archwilio Cymru ac roedd ganddo gyfrifoldeb penodol am faterion yn ymwneud â’r Cynulliad. Ar hyn o bryd, mae o’n gweithio gyda Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad ym maes llywodraethu corfforaethol ac yn rhoi cyngor ariannol arbenigol;
  • Bydd adnoddau’r gwasanaeth ymchwil, y tîm cyfreithiol ac aelodau eraill o staff arbenigol y Cynulliad ar gael i’r Panel os bydd eu hangen arnynt.