Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Brian Gibbons AC

Brian Gibbons ydw i ac ’rwy’n cynrychioli etholaeth Aberafan. Ardal ddiwydiannol iawn yw hi, yn cynnwys Port Talbot, Llansawel, Sgiwen ac ardaloedd glofaol cynt Cwm Afan uchaf lle mae fy nghartref. Cefais fy magu yng Ngorllewin Iwerddon a graddiais mewn meddygaeth o Brifysgol Galway yn 1974. Dois i i’r DU i orffen hyfforddi yn 1976 gan symud i bentref Blaengwynfi, De Cymru, yn feddyg teulu yn 1980. Credaf fod y ffaith fy mod yn byw yn yr etholaeth yn fantais fawr imi wrth imi gynrychioli’r cyhoedd. Cyn imi ddod i’r Cynulliad yn 1999 ’r oeddwn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ac yn ymddiddori mewn materion meddygol a gwleidyddol. Yn ogystal â chynrychioli buddiannau f’etholaeth ’rwy’n ymddiddori’n fawr mewn adfywio economaidd, hybu ffyniant a lles yma yng Nghymru a materion Ewropeaidd. Ac mae gen i ddiddordeb o hyd mewn materion gofal iechyd.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu