Mae Kirsty wedi cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers sefydlu’r Cynulliad ym 1999. Cyn hynny, bu’n aelod o Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn y Cynulliad, mae Kirsty wedi bod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Etholwyd Kirsty yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Rhagfyr 2008.
Mae Kirsty’n byw gyda’i gwr a’u tair merch fach ar fferm y teulu ger Aberhonddu.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun