Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Carwyn Jones AC
F’enw i yw Carwyn Jones a fi yw’r Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr. Fe’m ganed ym 1967 ac rwy’n byw ym Mhen-y-bont. Rwy’n briod ac mae gennyf ddau blentyn. Bûm yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys yn Llundain. Cyn cael f’ethol i’r Cynulliad, roeddwn yn fargyfreithiwr yn gweithio mewn practis preifat yn y llysoedd troseddol a theulu yn bennaf. Fe’m hetholwyd i’r Cynulliad ym 1999. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Cabinet ers saith mlynedd ac wedi bod yn Weinidog dros Faterion Gwledig, yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ac yn Weinidog dros Lywodraeth Agored. Bellach, fi yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad ac Arweinydd y Ty.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu