Etholwyd Rhodri Glyn Thomas i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999, gan ennill o 6,980 o bleidleisiau. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys amaethyddiaeth a’r economi wledig, Ewrop a materion cymdeithasol a thrafnidiaeth. Cafodd ei ailethol yn 2007 pan gynyddodd ei fwyafrif i dros 8,000, gan sicrhau mai sedd Rhodri oedd yr ail fwyaf diogel yn y Cynulliad. Pan aeth Plaid Cymru i lywodraeth glymblaid â Llafur Cymru ym mis Gorffennaf 2007, cafodd Rhodri ei benodi’n Weinidog dros Dreftadaeth ond ymddiswyddodd o’r swydd honno yn 2008. Ar hyn o bryd, mae Rhodri’n aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun