Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Jenny Randerson AC
Helo. Fy enw i yw Jenny Randerson a fi yw’r Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd. Yr wyf yn gyn-arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Sir Caerdydd a bûm hefyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Glan Hafren. Cefais fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999 ac fe’m gwnaed yn Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bûm yn ymwneud ag adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru ac Iaith Pawb, y cynllun gweithredu ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae’n anrhydedd cael cynrychioli Canol Caerdydd; mae’n etholaeth ardderchog i’w chynrychioli gan ei bod mor amrywiol. Mae cymunedau Cathays, Cyncoed, Pen-y-lan, Pen-twyn, Llanedern, Adamsdown, Plasnewydd a’r Rhath oll yn rhan o’m hetholaeth.
Bellach, fi yw llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyllid ac iechyd ac mae hyn yn rhoi’r cyfle imi gyfarfod â llawer o weithwyr proffesiynol y byd iechyd, cleifion a gwirfoddolwyr, sydd bob amser yn awyddus i ddweud wrthyf beth yw’r problemau a’r pynciau llosg o fewn y gwasanaeth iechyd.
Mae fy ngwaith yn y Cynulliad ac ar ran Canol Caerdydd yn fy nghadw’n brysur iawn, ond pan gaf amser i fy hunan, byddaf yn mwynhau’r amser hwnnw gartref ac yn ymweld â’m dau blentyn. Mae’r wyth mlynedd diwethaf wedi bod yn brofiad ardderchog ac yr wyf yn edrych ymlaen at barhau i gynrychioli pawb yng Nghanol Caerdydd yma yn y Cynulliad.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu