Etholwyd Jonathan Morgan i’r Cynulliad ym 1999 fel un o Aelodau rhanbarthol y Cynulliad dros Ganol De Cymru. Rhwng 1999 a 2003 roedd yn llefarydd Plaid Geidwadol Cymru dros Addysg a chafodd ei benodi’n llefarydd Iechyd pan gafodd ei ailethol yn 2003. Yn y Trydydd Cynulliad, cafodd ei benodi’n Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac ers mis Chwefror 2009 mae Jonathan wedi bod yn aelod ar y meinciau cefn. Jonathan yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys Ewrop, addysg, iechyd a llywodraeth leol.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun