Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Jonathan Morgan AC
Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Jonathan Morgan AC

Fy enw i yw Jonathan Morgan ac yr wyf yn un o’r dwsin o Aelodau Cynulliad sydd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad. Bellach, yr wyf yn cynrychioli etholaeth Gogledd Caerdydd. Yr wyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999, sef y dechrau, ac yn ystod dau dymor cyntaf y Cynulliad, bûm yn cynrychioli Canol De Cymru a oedd yn cynnwys Caerdydd yn gyfan, Bro Morgannwg a llawer o gymoedd y De. Ers 2003, fi yw Gweinidog yr Wrthblaid dros iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ond cyn hynny, ac ers y dechrau—ym 1999—fi oedd llefarydd y Blaid Geidwadol ar addysg.

Yn ystod y trydydd Cynulliad byddaf hefyd yn cadeirio’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol. Bydd y swydd honno’n gofyn i mi sicrhau ein bod yn craffu ar waith Llywodraeth y Cynulliad ar draws ei hystod eang o feysydd polisi, o ysbytai a meddygfeydd i’r ffordd y mae awdurdodau lleol Cymru’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Pan na fyddaf yn y Cynulliad, byddaf yn mwynhau mynd i’r theatr, y sinema, bwyta allan a theithio, yn arbennig. Felly, pan fydd gennyf benwythnos rhydd byddaf yn mwynhau ymweld ag arfordir Sir Benfro.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu