Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiadau Aelodau'r Cynulliad

Lorraine Barrett

Lorraine Barrett AM / AC

De Caerdydd a Phenarth

Llafur

Llafur

Comisiynydd y Cynulliad

Bywgraffiad

Etholwyd Lorraine Barrett i’r Cynulliad yn yr etholiadau cyntaf i’r Cynulliad ym 1999. Cafodd ei hailethol yn 2003 a 2007.

Mae diddordebau gwleidyddol Lorraine yn cynnwys iechyd, yr amgylchedd, celfyddydau a diwylliant a lles anifeiliaid. Fel aelod o Gymdeithas Ddyneiddiol Prydain a’r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol, mae ganddi ddiddordeb ym mhopeth seciwlar. Mae’n gadeirydd y Grwp Hollbleidiol ar Les Anifeiliaid a grwp y Cynulliad o aelodau Plaid Gydweithredol Llafur. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol; y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4; a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru, y Blaid Gydweithredol, ac Uno’r Undeb ac yn Gomisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Cynulliad Cynaliadwy.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu Trawsgrifiad Fersiwn Testun

Manylion cyswllt

e-bost: lorraine.barrett@cymru.gov.uk

Lorraine Barrett AC

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF99 1NA

Anfon ffurflen electroneg at Aelod
Ffôn: 029 2089 8749
Ffôn: 029 2089 8378
Ffôn: 029 2089 1997

Canlyniadau Etholiad 2007

Enw Plaid Nifer o bleidleisiau %
Lorraine Barrett Llafur

10106

37.8

Karen Robson Plaid Geidwadol Cymru

7352

27.5

Dominic Hannigan Democratiaid Rhyddfrydol

5445

20.4

Jason Toby Plaid Cymru

3825

14.3