Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo - Fersiwn Testun | Lorraine Barrett AM

Helo, Lorraine Barrett ydw i ac rydw i wedi bod yn Aelod Llafur a Chydweithredol yn y Cynulliad dros Dde Caerdydd a Phenarth ers 1999.’Rwy’n briod ac mae gen i ddau o blant, un wyres fach hyfryd ac wyres fach arall i ddod.

Mae’r Cynulliad ei hun yng nghanol f’etholaeth yn ymyl adeilad hardd y Lanfa oedd yn gartref i Feistr y Dociau yn nyddiau aur allforio glo, pan allforid mwy o lo o Gaerdydd nag o unman arall yn y byd.

Yma yn y Cynulliad ,’rwy’n cadeirio’r Grwp Trawsbleidiol ar les anifeiliaid ac ’rwy’n aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd a’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol. ’R ydw i hefyd yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn materion cydraddoldeb, a hynny’n arbennig am fy mod yn cynrychioli un o’r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru.

Bellach mae pwerau newydd ar gael inni yn y Cynulliad ac ’rwy’n  mawr obeithio y bydd pobl Cymru’n gweithio’n agos gyda ni wrth arfer y pwerau hyn i ddal i gyflwyno’r gwasanaethau hynny yr ydym yn dymuno’u cael yma yng Nghymru.

Os ydych yn byw yn Ne Caerdydd a Phenarth cysylltwch â mi. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang  Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu