Etholwyd Rhodri Morgan i’r Cynulliad ym mis Mai 1999. Rhodri oedd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Materion Ewropeaidd rhwng 1999 a 2000. Daeth yn Brif Weinidog Cymru ar 16 Hydref 2000, ar ôl bod yn y swydd honno o dan y teitl “Prif Ysgrifennydd” ers mis Chwefror y flwyddyn honno. Ar 1 Mai 2003, ail-etholwyd Plaid Lafur Cymru i’r Cynulliad o dan arweiniad Rhodri. Fodd bynnag, yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007, roedd y Blaid Lafur 4 sedd yn brin o fwyafrif cyffredinol. Ar 27 Mehefin 2007, llofnododd Rhodri gytundeb Cymru’n Un i ffurfio llywodraeth glymblaid gyda Phlaid Cymru.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun