Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Rhodri Morgan AC
Rhodri Morgan wyf i a fi yw’r Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd, sy’n ymestyn o ychydig i’r gogledd i Waelod-y-Garth ac i lawr i ganol Caerdydd ar hyd ochr orllewinol yr afon Taf, sy’n cynnwys Treforgan [SYLWER: fe’i hadnabyddir fel Pentre-poeth hefyd], Radur, Llandaf, a Glan yr Afon; i’r gorllewin tuag at y ffin â Bro Morgannwg ger yr A4232, sy’n cynnwys Treganna, Caerau a Threlái; ac yna i’r gogledd tuag at y Tyllgoed, Creigiau a Phentyrch. Felly mae’n etholaeth amrywiol iawn gyda thir amaethyddol, ardaloedd trefol a phopeth arall sydd rhwng yr ardaloedd hynny.
Fe’m ganed yng Nghaerdydd ac fe’m haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Radur ac yna yn Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd. Es i ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ac yna i wneud gradd Meistr ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau.
Bues i’n ddarlithydd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr ac yn gynghorydd economaidd ym maes llywodraeth leol a llywodraeth ganolog cyn imi gael fy mhenodi’n bennaeth Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd. Fe’m hetholwyd i gynrychioli Gorllewin Caerdydd fel Aelod Seneddol yn San Steffan ym 1988, ond gadewais yn 2001 ar ôl cael fy ethol i’r Cynulliad ym 1999.
Fy ngwraig, Julie Morgan, yw’r Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd. Mae gennym dri o blant a saith o wyrion. Byddwn yn treulio amser gyda hwy ar benwythnos ac yr wyf hefyd yn gweithio ar ardd lysiau newydd.
Yn ogystal â bod yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd, fi yw Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu