Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiadau Aelodau'r Cynulliad

Gareth Jones

Gareth Jones AC/AM

Aberconwy

Plaid Cymru

Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu

Bywgraffiad

Dychwelodd Gareth Jones i’r Trydydd Cynulliad yn 2007 fel yr Aelod dros sedd newydd Aberconwy, ar ôl bod yn Aelod dros Gonwy yn ystod y Cynulliad Cyntaf rhwng 1999 a 2003. Yn ystod ei yrfa, mae wedi dal nifer o swyddi; ef oedd llefarydd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, a Chadeirydd y Pwyllgor Addysg. Ar hyn o bryd, Gareth yw Cadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad ac mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2. Mae Gareth yn gyn-Bennaeth ysgol ac ymgynghorydd addysg, ac mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, cyfiawnder cymdeithasol a’r Gymraeg. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau chwarae golff.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu Trawsgrifiad Fersiwn Testun

Manylion cyswllt

e-bost: gareth.jones8@cymru.gov.uk

Swyddfa’r Etholaeth Aberconwy:

Swyddfa Gareth Jones AC
16 Heol yr Orsaf
LLANRWST
LL26 0EP
(01492 642014 / 07725 498 163)

Ymholiadau’r wasg i:

23 Ty Tyldesley
48 Clarence Road
Craig y Don
Llandudno
LL30 1TW

( 01492 876850 / 07818 204115)

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF99 1NA

Anfon ffurflen electroneg at Aelod
Ffôn: 029 2089 8282

Canlyniadau Etholiad 2007

Enw Plaid Nifer o bleidleisiau %
Gareth Jones Plaid Cymru

7983

38.6

Dylan Jones-Evans Plaid Geidwadol Cymru

6290

30.4

Denise Idris Jones Llafur

4508

21.8

Euron Hughes Democratiaid Rhyddfrydol

1918

9.3