Etholwyd Christine Chapman i’r Cynulliad ym 1999. Roedd yn gadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglen Amcan Un rhwng 2000 a 2004 ac, ym mis Ionawr 2005, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, a Chyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n gadeirydd Grwp Menywod a Democratiaeth y Cynulliad ac yn Ysgrifennydd Grwp UNSAIN y Blaid Lafur. Ar hyn o bryd, mae Christine yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, y Pwyllgor Menter a Dysgu a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun