Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC

Ym Mai 2007 ces fy ethol yn AC Dwyfor Meirionnydd, yr etholaeth newydd sy’n cynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithiriadol Llyn yn ogystal a rhannau deheuol Eryri lle bum yn byw drwy f’oes. Mae gweithio yn y fath arfordir a chefn gwlad bob wythnos yn fraint aruthrol. Pan gwrddodd y trydydd Cynulliad ces fy ail-ethol yn Llywydd. Er bod ‘llywydd’ yn gallu disgrifio un sy’n gapten neu yn llywio llong, mae’r swydd yn debycach i Ddyfarnydd Rygbi yn dehongli rheolau’r gem wleidyddol gan sicrhau chware teg i bob ochr. Nid gem yw gwleidyddiaeth wrth gwrs. Mae cynrychioli pleidleiswyr sy’n disgwyl  gwasnaethau cyhoeddus o ansawdd ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol  mewn amgylchedd diogel a chynaladwy yn fater difrifol.

Rywdi hefyd y mwynhau fy ngweithgareddau eraill. Mae bod yn Llywydd fy hen Brifysgol ym Mangor yn fy ngadw mewn cysylltiad a bywyd myfyrwyr ymchwil a dysgu. Rydw’n byw yn Esgobaeth Llanelwy, yn cynrychioli’r rhan fwyaf o Esgobaeth Bangor, ac yn Stiward yng Nghhaeirlan Llandaf. Wedi fy magu fel llawer o wleidyddion yn y Mans rydwi wedi cartrefu yn yr Eglwys yng Nghymru ddwyieithog mewn dialog gyda chymunedau ffydd eraill. Yn byw rhwng Eryri a Bro Morgannwg yng nganol coedlannau helaeth, rhaid i mi fynd allan i redeg, cerdded mynyddoedd a chefnogi’r Gymdeithas Gwarchod Adar. Rydw’n hoff iawn o wylio arferion adar ysgylfaethus cynhenid yn yn eu cynefinoedd, y barcud, y cydull a’r hebog yn ogystal a’r ymwelwyr rhyfeddol y Gweilch sy’n nythu ar y Traeth Mawr ar aber yr Afon Glaslyn yng nghalon Dwyfor Meirionnydd.    

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu