Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo - Fersiwn Testun | Nick Ramsay AC

Helo, fy enw yw Nick Ramsay a chefais fy ethol i gynrychioli etholaeth Mynwy ym mis Mai 2007 gyda mwyafrif o 8467 o bleidleisiau, y cydradd ail fwyaf yng Nghymru.

Cyn cael fy ethol yn AC bûm yn ymchwilydd i’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad ers 2001 a hefyd yn Gynghorydd Sir yn Sir Fynwy ers 2004.

Mae Mynwy yn etholaeth sydd ar y gororau a chafodd ei hadnabod, yn hanesyddol fel y porth i Dde Cymru.

Mae’r etholaeth yn cynnwys trefi marchnad hanesyddol Mynwy, Y Fenni a Chas-gwent yn ogystal â rhan fawr o Gwmbrân yn ardal gyfagos cyngor Tor-faen.

Mae Sir Fynwy yn ardal hyfryd sy’n cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y Gogledd orllewin a hefyd Dyffryn Gwy hardd  yn y Dwyrain lle’r ysgrifennodd Wordsworth ei linellau enwog am Abaty Tyndyrn.

Yn draddodiadol, prif ddiwydiannau’r sir yw ffermio a thwristiaeth.  Yn yr haf daw’r ardal yn fyw gyda digwyddiadau bywiog fel gwyl fwyd Y Fenni.

Cefais fy ngeni a fy magu yn yr ardal ac mae’n bleser gen i gael y cyfle i gynrychioli pobl y rhan arbennig iawn hon o’r byd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang  Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu