Etholwyd Mick Bates i’r Cynulliad ym 1999 a chafodd ei ailethol yn 2003 a 2007. Mick yw cadeirydd ac un o aelodau sefydlu Grwp Ynni Cynaliadwy Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol (NASEG) sy’n parhau i dyfu a sicrhau dylanwad ac ennill cydnabyddiaeth. Mae’r grwp yn hyrwyddo datblygu diwydiant ynni cynaliadwy, glân, gwyrdd yng Nghymru a fydd yn dangos y ffordd i Brydain a gweddill y byd. Ers 2007, bu Mick yn Gadeirydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol ac, ar hyn o bryd, mae’n aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun