Etholwyd Gwenda Thomas i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999 a chafodd ei phenodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Tai. Yn yr Ail Gynulliad, Gwenda oedd Cadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad a chafodd ei phenodi’n gadeirydd i adolygiad ar Ddiogelu Plant Agored i Niwed yng Nghymru. Yn y Trydydd Cynulliad, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae ei diddordebau yn cynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, materion yn ymwneud â phlant, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun