Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Gwenda Thomas AC
Helo, Gwenda Thomas ydwyf i–yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd.
Ganwyd fi yn 1942 yng Waun Cae Gurwen.
Roeddwn yn gweithio yn y wasanaeth Sifil am nifer o flynyddoedd yng nghangen y llysoedd sir yn adran yr Arglwydd Ganghellor ac wedyn yn yr asiantaeth budd-daliadau.
Roeddwn yn gyngorwraig am sawl blwyddyn ar level cymunedol, Sir a bwrdeistref sirol, ac yn Gadeirydd ar Bwyllgorau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Rwyn Gadeiryddes ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gwauncaegurwen.
Fi oedd Cadeirydd Ymgyrch Gorllewin Morgannwg dros gael Cynulliad I Gymru a Dirprwy Gadeirydd ymgyrch "Ie dros Gymru", Castell-nedd.
Mae fy niddordebau'n cynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a hawliau gofalwyr, a phlant, gofal plant a'r sector wirfoddol.
Rwyn rhigl yn y Gymreag.
Rwy’n awr yn ddirprwy weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth y Cynulliad gyda chyfrifoldeb arbennig am wasanaethau Cymdeithasol. Rwy hefyd yn arwain ar rhan y Llywodraeth ar faterion plant.