Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiadau Aelodau'r Cynulliad

Mark Isherwood

Mark Isherwood AM / AC

Gogledd Cymru

Plaid Geidwadol Cymru

Welsh Conservatives

Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Cydraddoldeb a Thai

Bywgraffiad

Etholwyd Mark Isherwood i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Cyn hynny, roedd yn cael ei gyflogi fel Rheolwr Ardal Cymdeithas Adeiladu yn y Gogledd. Enillodd Mark radd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle, ac mae hefyd yn Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Bancwyr. Mae Mark yn Llysgennad Girl Guides Clwyd, yn Is-Lywydd Cymdeithas Chwarae Gogledd Cymru, yn Noddwr Canolfan Seibiant HIV/AIDS Tyddyn Bach ym Mhenmaenmawr, yn aelod o Gyngor ar Bopeth Conwy ac yn sefydlydd CHANT (Ysbytai Cymunedol yn Gweithio Gyda’i Gilydd yn Genedlaethol). Mae gan Mark ddiddordeb brwd mewn materion economaidd, materion cyfoes a materion cymdeithasol. Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ac yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Mae’n gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd, Niwrowyddoniaeth ac Angladdau a Phrofedigaeth. Mae hefyd yn aelod o nifer o Grwpiau Trawsbleidiol eraill, gan gynnwys y grwpiau Awtistiaeth a Materion yn ymwneud â Byddaredd.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu Trawsgrifiad Fersiwn Testun

Manylion cyswllt

e-bost: mark.isherwood@cymru.gov.uk

Mark Isherwood AC
Delyn Conservative Association,
5 Halkyn Street
Treffynnon
CH8 7TX
Ffôn: 01352 710232
Ffacs : 01352 714074

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF99 1NA


Anfon ffurflen electroneg at Aelod
Ffôn: 029 2089 8730
Ffôn: 029 2089 8252

Canlyniadau Etholiad 2007

Enw(au) Plaid Nifer o bleidleisiau i bob plaid %

Brynle Williams


Mark Isherwood

Plaid Geidwadol Cymru

50266

25.6

Janet Ryder Plaid Cymru

50558

25.7

Eleanor Burnham Democratiaid Rhyddfrydol

15275

7.8