Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Brynle Williams AC

Fy enw i yw Brynle Williams.  Rwy’n aelod o Blaid Geidwadol Cymru ac yn Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Gogledd Cymru.

Ers i mi gael fy ethol yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2003, rwy’n ymfalchïo yn y ffaith i mi fod yn llais cryf dros bobl y Gogledd, yn enwedig dros y gymuned amaethyddol.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn llunio cynllun hirdymor ar gyfer dyfodol ardaloedd gwledig, i roi sicrwydd a chyfleoedd am waith i bobl ifanc i’w galluogi i aros yn yr ardaloedd hyn. Byddai hyn hefyd yn helpu i warchod yr iaith Gymraeg, sy’n agos iawn at fy nghalon.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu