Etholwyd Leighton Andrews i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Ei bleidlais o 14,170 oedd y bleidlais uchaf i’r Blaid Lafur yng Nghymru. Yn ystod ei dymor cyntaf, roedd yn aelod o’r Pwyllgorau Addysg, Diwylliant, a Datblygu Economaidd. Cafodd ei ailethol ym mis Mai 2007, ac yn dilyn hynny, ymunodd â Llywodraeth Cymru fel y Dirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb arbennig dros faterion yn ymwneud â thai. Pan ffurfiwyd y llywodraeth glymblaid newydd ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Leighton yn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio, yn gweithio o fewn yr Adran dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Adran dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Yn 2009, fe’i penodwyd yn Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys yr economi, diwylliant, tai, addysg, y cyfryngau, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun