Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Andrew RT Davies AC

Diolch yn fawr am roi o’ch amser i wylio’r cyfweliad hwn. Fy enw i yw Andrew R T Davies ac rwy’n Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru. Rhaid i mi ddefnyddio’r llythrennau ‘R T’ yn fy enw gan fod dau A Davies arall yn aelodau o’r Cynulliad ac mae hyn yn aml yn peri dryswch. Rwy’n Aelod Cynulliad newydd a etholwyd ar 3 Mai 2007. Rwy’n briod â Julia sy’n fydwraig gymunedol ac mae gennyf bedwar plentyn o oed ysgol; Sophie sy’n bedair ar ddeg oed, Matthew sy’n naw oed, James sy’n un ar ddeg oed a Sarah sy’n bump oed. Rwy’n aelod o’r grwp ceidwadol yn y Cynulliad ac yn llefarydd y grwp ar faterion trafnidiaeth.  Rwyf hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth. Rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo pob un ohonoch sy’n byw yn fy etholaeth, beth bynnag fo’ch cefndir gwleidyddol.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu