Etholwyd Chris Franks i’r Cynulliad yn 2007. Mae Chris yn ymrwymedig i hybu Caerdydd fel prifddinas ryngwladol ac adnewyddu’r cymoedd. Mae hybu trafnidiaeth gyhoeddus yn un o’i flaenoriaethau, yn arbennig cysylltu’r cymoedd â Chaerdydd. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys gweithio i wella cefn gwlad er mwyn annog bywyd gwyllt a gwella cynefinoedd rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae Chris yn aelod o’r Grwp Hollbleidiol ar Wasanaethau Dioddefwyr Strôc. Mae wedi ymrwymo i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr strôc a’u teuluoedd. Chris yw Prif Chwip Plaid Cymru ac mae’n aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun
Gwefan Personol
www.chrisfranks.plaidcymru.org