Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Chris Franks AC

Helo, Chris Franks ydw i, ac ’rwyf newydd gael fy ethol yn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru yng Nghanol De Cymru. ’R wy’n cynrychioli ardal amrywiol iawn sy’n cynnwys 600,000 o bobl ac yn ymestyn o waelodion Bannau Brycheiniog hyd at Ynys Sili.Yn yr etholaeth ceir cymunedau fu gynt yn rhai glofaol, y Brifddinas a thir amaethyddol cynhyrchiol Bro Morgannwg. Ces fy ngeni yng Nghaerdydd ac ’r wyf wedi bod yn gweithio yn Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Caerdydd. Fel Cynghorydd Sir ar Gyngor Bro Morgannwg mae gen i brofiad ym maes Addysg ac ’r wyf wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Ddysgu Gydol Oes. ’R wyf hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd Iechyd Leol. Yn ystod fy nhymor, ’r wyf am wneud y Cynulliad yn fwy perthnasol i’r cyhoedd ac yn ymatebol i bobl Cymru.’Rwy’n edrych ymlaen am yr her sydd gan y pedair blynedd nesaf.

Bywgraffiad Fideo

Bywgraffiad Fideo Fersiwn Band Eang Bywgraffiad Fideo Fersiwn Deialu