Mohammad Asghar, a elwir yn ‘Oscar’, oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf o leiafrif ethnig pan gafodd ei ethol i’r Cynulliad ym mis Mai 2007. Mae Oscar wedi bod yn gyfrifydd proffesiynol ers 39 mlynedd. Mae wedi sefyll dros Blaid Cymru mewn etholiadau blaenorol, gan gynnwys yr Etholiad Cyffredinol diwethaf ond ym mis Rhagfyr 2009 symudodd i’r Blaid Geidwadol. Mae diddordebau gwleidyddol Oscar yn cynnwys datblygu economaidd ac mae’n teimlo’n gryf am fynd i’r afael ag allgau cymdeithasol. Yn ei amser hamdden, mae Oscar yn gricedwr brwd ac mae ganddo hefyd drwydded peilot preifat.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun