Etholwyd William Graham i’r Cynulliad ym mis Mai 1999. Yn ystod y Cynulliad Cyntaf, cafodd ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Addysg Cyn-16, Ysgolion a Dysgu Blynyddoedd Cynnar. Yn ystod yr Ail Gynulliad roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion a Phwyllgor y Ty. Roedd hefyd yn llefarydd y blaid ar Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol a Thai. Yn y Cynulliad presennol, William yw Comisiynydd y Cynulliad dros Adnoddau. Mae diddordebau gwleidyddol William yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, datblygu economaidd a chymdeithasol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrafnidiaeth.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun