Etholwyd Peter Black i’r Cynulliad ym 1999 a chafodd ei ailethol yn 2003 a 2007. Mae’n gyn Gadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac mae ei ddiddordebau polisi yn cynnwys tai, llywodraeth leol a mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae Peter yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3. Mae’n aelod o Gomisiwn y Cynulliad, lle mae’n gyfrifol am y maes TGCh a hyrwyddo’r Cynulliad. Mae hefyd yn Rheolwr Busnes ei blaid ac yn aelod o’r Pwyllgor Busnes. Peter yw Gweinidog Gwrthblaid y Democratiaid Rhyddfrydol dros Iechyd, Tai a Llywodraeth Leol.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun
Gwefanau personol:
www.peter-black.net
http://peterblack.blogspot.com