Bywgraffiad Fideo – Fersiwn Testun | Peter Black AC
Nid oes fersiwn Cymraeg o’r Fideo
Fy
enw i yw Peter Black a fi yw Aelod Cynulliad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Orllewin De Cymru.
Fi yw llefarydd fy mhlaid ar Gyfiawnder Cymdeithasol, Tai, Cymunedau, y Gymraeg, Diwylliant a Chwaraeon.
Mae’n faes gorchwyl mawr, ond rwy’n dechrau ei feistroli. Bûm yn gadeirydd y Pwyllgor Addysg, Dysgu
Gydol Oes a Sgiliau yn yr Ail Gynulliad a gweithiais gyda’r Pwyllgor hwnnw i baratoi adroddiadau helaeth
ar anghenion addysgol arbennig a chludiant i’r ysgol.
Rwy’n byw yn Abertawe
gyda fy ngwraig ac enillais radd o Brifysgol Abertawe. Rwyf hefyd yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Abertawe
ers 1984. Fy mhrif ddiddordeb yw tai ond mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn ystod o feysydd polisi eraill.
Rwy’n mwynhau bod yn Aelod Cynulliad, a gweithio gydag eraill yn y Cynulliad i geisio cyflawni dros
Gymru.
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu