Graddiodd Bethan o Brifysgol Aberystwyth yn 2003 gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol. Fe’i hetholwyd i swydd ansabothol Swyddog y Menywod yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Swyddog Ymgyrchoedd yn 2003, ac yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn 2004.
Yn 2004-05, sefydlodd Bethan fudiad ieuenctid newydd o fewn Plaid Cymru, sef Cymru X, a bu hefyd yn gweithio i Jill Evans ASE. Bu’n aelod o banel adolygiad Graham ar astudio rhan-amser (a fu’n asesu’r strwythur ffioedd a’r cymorth ar gyfer astudio rhan-amser yng Nghymru).
Roedd Bethan yn ymgeisydd yn rhanbarth Gorllewin De Cymru yn etholiadau’r Cynulliad. Ymhlith ei diddordebau mae addysg, gwasanaethau cymunedol, materion cyfle cyfartal a chyfranogiad pobl ifanc ym myd gwleidyddiaeth.
Bywgraffiad Fideo
Fersiwn Band Eang
Fersiwn Deialu
Fersiwn Testun