Etholwyd Andrew Davies i’r Cynulliad ym mis Mai 1999. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys datganoli, datblygu economaidd, celf gyfoes a lle Cymru yn y byd. Roedd yn aelod amlwg o’r ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ ac yn gydgysylltydd ymgyrch refferendwm Cynulliad y Blaid Lafur ym 1997. Bu Andrew yn aelod o’r Cabinet am ddeng mlynedd ers dechrau’r Cynulliad ym mis Mai 1999, a hynny fel Trefnydd y Cynulliad rhwng 1999 a 2002, fel y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd rhwng 2002 a 2008 (yn ogystal â Thrafnidiaeth o 2003 ymlaen), ac fel y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus rhwng mis Gorffennaf 2007 a mis Rhagfyr 2009.