Etholwyd Lynne Neagle i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Bu Lynne yn gadeirydd y Grwp Llafur yn y Cynulliad tan 2008. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol cymoedd y De. Mae Lynne yn Aelod sy’n ymgyrchu’n frwd ac mae ganddi gefndir o weithio’n galed ym maes iechyd, addysg, adfywio’r cymoedd a hawliau menywod.