Sut y caiff yr Aelodau eu hethol?
Mae cyfanswm o 60 o Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru - mae 40 ohonynt yn Aelodau Etholaeth, sy’n cynrychioli'r un etholaethau lleol ag Aelodau Seneddol San Steffan, ac mae’r 20 arall yn Aelodau Rhanbarthol, sy’n cynrychioli un o bum rhanbarth Cymru.
Caiff pawb yng Nghymru eu cynrychioli gan un Aelod Etholaeth a phedwar Aelod Rhanbarthol. Mae gan bob Aelod Etholaeth ac Aelod Rhanbarthol statws cyfartal yn y Cynulliad. Mae hyn yn golygu bod holl fuddiannau rhanbarthau ac etholaethau Cymru yn cael eu cynrychioli’n gyfartal.
Aelodau Rhanbarthol
Y pum rhanbarth yw: Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru, Dwyrain De Cymru. Mae pedair sedd i bob un rhanbarth.
Caiff yr 20 Aelod Rhanbarthol eu dewis drwy gynrychiolaeth gyfrannol. Mae hyn yn sicrhau bod y Cynulliad cyfan yn adlewyrchu’r gefnogaeth a gaiff pob plaid ym mhob cwr o Gymru.
Aelodau Etholaeth
Caiff y 40 Aelod Etholaeth eu dewis yn ôl y system ‘y cyntaf i’r felin’; Yna, etholir yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau.
Sut mae’r system ranbarthol yn gweithio?
Dyma sut mae’r system ranbarthol yn gweithio:
mae pob plaid neu grŵp mewn rhanbarth yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr;
mae’r etholwyr yn pleidleisio dros y blaid o’u dewis hwy;
caiff y pleidleisiau rhanbarthol eu cyfrif ar ôl i’r pleidleisiau etholaeth gael eu cyfrif;
caiff cyfanswm pleidleisiau pob plaid ei rannu ag 1 + nifer yr Aelodau Cynulliad sydd ganddi yn y rhanbarth hwnnw eisoes;
y blaid sydd â’r cyfanswm uchaf ar ôl y cyfrif hwn sy’n cael y sedd nesaf a chaiff y person ar ben ei rhestr ei ethol;
ailadroddir yr un patrwm nes y bydd y pedair sedd ranbarthol wedi cael eu penderfynu.
Daeth y system a oedd yn golygu y gallai ymgeiswyr sefyll ar gyfer etholaeth a rhanbarth ar yr un pryd i ben pan basiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
