Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwy all fod yn ymgeisydd?

I gymhwyso i fod yn ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dylai person fod:

  • O leiaf 18 mlwydd oed ar y diwrnod pleidleisio a’r diwrnod enwebu;
  • Yn ddinesydd Prydeinig, Gweriniaeth Iwerddon, y Gymanwlad neu aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd.

Cyn arwyddo’r caniatâd i enwebiad, rhaid i ymgeiswyr wirio nad yw dim o’r anghymwysiadau sy’n eu rhwystro rhag bod yn Aelod yn gymwys iddyn nhw. Mae ystod o anghymwysiadau a allai rhwystro person rhag bod yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n debyg iawn i’r rhai sy’n atal pobl rhag bod yn ymgeiswyr ar gyfer sedd yn Senedd San Steffan neu Senedd Ewrop. Er enghraifft, yn unol a Deddf Datgymhwysiad Ty'r Cyffredin 1975, nid yw deiliaid y swyddi canlynol yn gymwys i fod yn Aelod Seneddol:

  • Barnwyr
  • Gweision gifil,
  • Aelodau o’r lluoedd arfog,
  • Aelodau o’r heddlu neu
  • Aelod o ddeddfwrfa tramor.

Yn ogystal, mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2006 yn rhestru nifer o ddeiliad swyddi penodol sydd yn anghymwys i fod yn Aelodau o’r Cynulliad.

Sut i fod yn ymgeisydd

Bydd person yn dod yn ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Cynulliad Cyffredinol Cymru unai:

•  ar ddiwrnod olaf cyhoeddi’r hysbysiad am yr etholiad, os ydyn nhw wedi cael eu datgan ganddyn nhw eu hunain neu gan eraill i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw.
neu:
• os na chafwyd datganiad o’r fath, bydd person yn dod yn ymgeisydd pan cânt eu datgan i fod yn ymgeisydd neu pan cânt eu henwebu fel ymgeisydd yn yr etholiad honno.

Mae’r diffiniad yma’n arbennig o bwysig er mwyn cyfrifo treuliau etholiad ymgeisydd.

Ymgeiswyr etholaethol a rhanbarthol

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 40 Aelod etholaethol, ac 20 Aelod rhanbarthol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi nad oes hawl gan ymgeiswyr sefyll am etholiad mewn etholaeth a rhanbarth ar yr un pryd. Nid yw’n bosib i ymgeiswyr sefyll mewn mwy nag un etholaeth na mewn mwy nag un rhanbarth.

Gall plaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno rhestr o hyd at ddeuddeg ymgeisydd ar gyfer etholiad ymhob un o bum rhanbarth y Cynulliad.

Enwebiadau

I sefyll am etholiad, dylai pob ymgeisydd etholaethol ac ymgeisydd rhanbarthol unigol gael eu henwebu ar bapur enwebu ar wahân, a ddylai gael ei arwyddo gan danysgrifiwr.

Dylai Swyddog Enwebu’r blaid gyflwyno rhestr ymgeiswyr plaid gofrestredig sydd yn ymgeisio i fod yn aelodau rhanbarthol am ranbarth penodol i’r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol. Hefyd, dylai person sy’n sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno tystysgrif sy’n awdurdodi eu hymgeisyddiaeth, sydd wedi’i arwyddo gan neu ar ran Swyddog Enwebu’r blaid. Fel arall, efallai y cânt eu disgrifio ar y papur pleidleisio fel ‘Independent’ ac/neu ‘Annibynnol’ neu ni fydd disgrifiad iddyn nhw o gwbl.

Ni ddylai disgrifiad a ddefnyddir gan ymgeisydd plaid fod yn fwy na chwe gair mewn hyd (e.e. chwe gair mewn Saesneg a/neu chwe gair mewn Cymraeg). Bydd y disgrifiad yma, ynghyd ag enw llawn a chyfeiriad gartref yr ymgeisydd yn ymddangos ar y papur pleidleisio, gydag arwyddlun cofrestredig y blaid honno pe gofynnir yn ysgrifenedig.

Bydd y Swyddog Canlyniadau’n cadarnhau’r union drefniadau parthed amser a lleoliad ar gyfer dosbarthu papurau enwebu yn yr Hysbysiad Etholiad.

Caniatâd

Dylai’r ymgeisydd gytuno i’r enwebiad yn ysgrifenedig ar, neu o fewn un mis cyn dyddiad cau’r enwebiadau, iddo fod yn ddilys. Dylai ef neu hi arwyddo caniatâd i enwebiad ym mhresenoldeb un tyst, a ddylai hefyd arwyddo a nodi eu henw a chyfeiriad llawn.

Dylai’r ffurflen ganiatâd gyhoeddi na ystyriwyd yr ymgeisydd i fod yn anghymwys rhag sefyll. Dylid dosbarthu’r caniatâd i’r Swyddog Canlyniadau gyda’r papurau enwebu eraill.

Bydd y Swyddog Canlyniadau’n penderfynu ar ddilysrwydd y papurau enwebu a bydd yn gwrthod enwebiad os na gaiff ei gwblhau yn unol â’r gyfraith.

Fodd bynnag, nid oes gofyn i’r Swyddog Canlyniadau benderfynu os dylid anghymwyso ymgeisydd. Mae’n drosedd ddifrifol i gynnwys gwybodaeth ffug ar yr enwebiad neu ffurflen ganiatâd, a gallai person a ddarganfyddir yn euog wynebu carchar hyd at flwyddyn neu ddirwy anghyfyngedig.

Asiantau etholiadol

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd benodi asiant etholiadol i fod yn gyfrifol i’r ymgeisydd ac yn gyfreithiol am reoli ymgyrch yr ymgeisydd yn briodol. Dylai ymgeiswyr sydd ddim yn apwyntio person arall weithredu fel eu hasiant etholiadol eu hunain.

Drwy gyfraith, ni all rhai pobl weithredu fel asiant etholiadol ymgeisydd, e.e. unrhyw swyddog neu glerc a apwyntiwyd gan y Swyddog Canlyniadau. Mae’n bwysig cymryd gofal wrth apwyntio asiant etholiadol, gan y gallai ymgeisydd fod yn atebol am gamweithredu a gyflawnwyd gan yr asiant. Gallai ymgeiswyr hefyd apwyntio asiantau pleidleisio a chyfrifo i’w helpu nhw.

Ernes

Er mwyn i enwebiad fod yn ddilys, rhaid i ymgeisydd sydd eisiau dychwelyd fel aelod etholaethol, neu ymgeisydd unigol sydd eisiau dychwelyd fel aelod rhanbarthol, roi ernes o £500 i’r Swyddog Canlyniadau priodol yn y fan a’r lle ar gyfer danfon papurau enwebu. Dylai Swyddog Enwebu’r blaid gofrestredig ernes swm o £500 mewn perthynas â rhestr ranbarthol y blaid honno ar gyfer rhanbarth arbennig gyda’r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yn y fan a’r lle ar gyfer danfon rhestrau rhanbarthol. Mae gofyn i’r ernes fod mewn arian cyfreithlon neu ddrafft banc o’r D.U. fel arfer.

Deunyddiau cyhoeddusrwydd yr ymgyrch

Mae deunyddiau cyhoeddusrwydd yr ymgyrch yn amodol ar nifer o rwystrau o dan gyfraith etholiadol, ac mae hefyd yn amodol ar gyfraith sifil a throseddol cyffredinol sy’n gysylltiedig â deunyddiau cyhoeddedig. Dylai gwasgnod fod ar wyneb yr holl bosteri, placardiau a biliau sy’n cyfeirio at yr etholiadau, gan ddangos enw a chyfeiriad yr argraffydd a chyhoeddwr y deunydd. Mae hyn yn gymwys hefyd i’r holl ddeunyddiau argraffedig a ddosbarthwyd ar gyfer hybu neu ennill etholiad ymgeisydd.

Cyfyngiadau ar wariant

Mae holl ymgeiswyr sy’n cystadlu yn yr etholiad yn amodol ar gyfyngiadau ar wariant a grëwyd ar gyfer etholiad. Cyfrifir y cyfyngiad yma drwy gymryd swm sefydlog yn ogystal â swm am bob person ar y gofrestr etholwyr ar gyfer yr etholaeth honno. Mae’r symiau hyn yn amrywio yn ôl y dewis i geisio am sedd cynulliad sy’n gyffiniol ag etholaeth bwrdeistref seneddol neu etholaeth sirol seneddol. Cyfrifir y cyfyngiad yma drwy adio uchafswm y cyfyngiadau ar gyfer pob etholaeth o fewn y rhanbarth gyda’i gilydd.

Mae pob ymgeisydd sy’n cystadlu mewn etholiad yn amodol ar gyfyngiadau ar wariant a grëwyd mewn cysylltiad ag etholiad. Gellir cyfrifo cyfyngiadau i ymgeiswyr mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel a ganlyn:

• Ar gyfer etholaeth seneddol sy’n gyffiniol ag etholaeth bwrdeistref seneddol, £7,150 ynghyd â 7c ychwanegol am bob cais yn y gofrestr etholwyr.

• Ar gyfer etholaeth seneddol sy’n gyffiniol ag etholaeth bwrdeistref seneddol, £7,150 ynghyd â 5c ychwanegol am bob cais yn y gofrestr etholwyr.

• Ar gyfer ymgeisydd unigol mewn etholiad rhanbarthol, swm a gyfrifir drwy adio uchafswm y cyfyngiadau ar gyfer pob etholaeth o fewn y rhanbarth.

Treuliau etholiad

Treuliau etholiad yw unrhyw dreuliau a gaiff eu gwario ar nwyddau, gwasanaethau, eiddo neu gyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer etholiad ymgeisydd o’r dyddiad y bydd y person yna’n dod yn ymgeisydd. Dylai asiant etholiadol pob ymgeisydd ddosbarthu dychweleb i’r Swyddog Canlyniadau ynglyn threuliau etholiad ymgeisydd o fewn 35 diwrnod ar ôl y diwrnod y cyhoeddir canlyniad yr etholiad. Dylai amgáu biliau neu dderbynebau i gefnogi’r holl eitemau gwariant gyda’r dychweleb (oni bai bod y swm yn llai na £20). Mae’n bwysig nodi y dylid cyflwyno dychweleb hyd yn oed os na grëwyd unrhyw dreuliau. Yr unig bobl y gellir derbyn rhodd o fwy na £50 ganddyn nhw yw cyfranwyr a ganiateir, a dylid cofnodi pob rhodd o fwy na £50 ar ddychweleb y treuliau etholiad. Dylid amgáu datganiadau gyda dychweliadau’r treuliau etholiadau a grëwyd gan yr ymgeisydd a’r asiant etholiadol.

Sefyll fel ymgeisydd

Os ydych chi’n ystyried sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â’r Swyddog Canlyniadau ar gyfer eich awdurdod lleol am wybodaeth fwy manwl ar y camau fydd angen i chi gymryd. Gallwch ddefnyddio ein  map rhyngweithiol i ganfod ym mha etholaeth yr ydych yn byw, a gallwch ganfod cyfeiriadau gwefannau pob awdurdod lleol ar ein tudalen lincs defnyddiol.

(darparwyd y wybodaeth uchod gan y Comisiwn Etholiadol)