Mae hawl gan Aelodau i gael adnoddau i gyflogi staff a rhedeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn gallu ymdrin â materion ac achosion a godir gan y bobl y maent yn eu cynrychioli. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dreuliau, lwfansau a rheolau yn nogfen Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau.
Mae adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Gorchymyn Sefydlog Rhif 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad Cenedlaethol gynnal a chyhoeddi Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau.
Mae’r Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal a chyhoeddi Cofnod o Aelodau sy’n cyflogi aelodau o’u teulu. Canfyddwch fwy am ganllawiau ar gyflogi aelodau o’r teulu.
Sefydlwyd Bwrdd Taliadau Annibynnol i sicrhau bod yr Aelodau yn cael adnoddau digonol i gyflawni eu swydd bwysig o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.