Cwestiynau Cyffredin
- Pam bod angen lwfansau ar Aelodau’r Cynulliad?
Pwy yw Arweinwyr y Pleidiau? - Pwy sy’n penderfynu cyfradd y Lwfansau?
- Pwy sy’n penderfynu beth sy’n hawliad cyfreithlon?
- Pa flynyddoedd ariannol a allaf fi chwilio amdanynt?
- Beth yw terfynau’r Lwfansau ar gyfer 2008/2009 ?
- Pam na allaf weld manylion llawn pob hawliad?
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Teithiau Rheolaidd a Theithiau nad ydynt yn Rheolaidd?
- Beth mae treuliau Prydau Bwyd/ Cynhaliaeth yn ei olygu?
- Pam bod rhai hawliadau ar gyfer symiau mewn enw’n unig?
- Pam bod Aelod Cynulliad yn ymddangos ei fod wedi gwario y tu hwnt i’w Hawl i Lwfansau (Hawliau Trosglwyddo Arian)?
- A ganiateir i Aelodau ‘drosglwyddo dynodiad’ eu cartrefi?
- A yw Lwfansau’r Aelodau’n cael eu trethu?
- Sut y caiff y ffigurau eu harchwilio?
- Pwy y dylwn gysylltu â hwy i gael rhagor o wybodaeth?
Pam bod angen lwfansau ar Aelodau’r Cynulliad?
Derbynia Aelodau’r Cynulliad gyflog i’w talu am eu rôl fel cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae’r Cynulliad yn rhoi hawl iddynt ddefnyddio adnoddau i gyflogi staff a chynnal swyddfeydd yn eu hetholaethau, fel y gallant ymdrin â materion ac achosion sy’n gofyn am sylw gan y bobl y maent yn eu cynrychioli. Gan fod y mwyafrif o Aelodau’n cynrychioli ardaloedd sydd gryn bellter o Gaerdydd, mae’r Cynulliad hefyd yn talu treuliau ail gartref iddynt yn ardal Caerdydd.
Pwy yw Arweinwyr y Pleidiau?
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys pedair prif blaid wleidyddol, sef:
Y Ceidwadwyr Cymreig – arweinydd y blaid yw Nick Bourne AC
Y Blaid Lafur Gymreig – arweinydd y blaid a Y Prif Weinidog yw Carwyn Jones AC
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - arweinydd y blaid yw Kirsty Williams AC a gymerodd yr awenau gan Mike German AC OBE ar 8 Rhag 2008
Plaid Cymru – arweinydd y blaid yw Ieuan Wyn Jones AC
Pwy sy’n penderfynu cyfradd y Lwfansau?
Mae’r holl dreuliau’n amodol ar set o reolau a nodir mewn dogfen o’r enw ‘Y Penderfyniad’ sy’n nodi’r cyflogau a lwfansau sy’n daladwy i Aelodau’r Cynulliad. Caiff y Penderfyniad ei ddiweddaru’n flynyddol.
Pwy sy’n penderfynu beth sy’n hawliad cyfreithlon?
Y Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynglyn â hawl i lwfans yn y pen draw. Tîm Cymorth Busnes yr Aelodau (a elwir yn gyffredin y ‘Swyddfa Ffioedd) sy’n prosesu pob hawliad o ddydd i ddydd.
Rhaid i bob hawliad gael ei gyflwyno gyda derbynneb ddigonol a dylai fod yn gwbl angenrheidiol i alluogi’r Aelod Cynulliad i gyflawni ei ddyletswyddau yn y Cynulliad.
Pa flynyddoedd ariannol a allaf fi chwilio amdanyntŷ
Ar hyn o bryd mae’r System Cyhoeddi Lwfansau ond yn cynnwys data ar gyfer 2008/2009. Byddwn, fodd bynnag yn cyhoeddi treuliau am y flwyddyn ariannol gyfredol yn Nhymor yr Hydref. Byddwn yn cyhoeddi’r holl dreuliau dri mis yn ôl-weithredol (ee byddai hawliadau ym mis Mai yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst ac ati).
Nid yw’r wybodaeth hon wedi’i harchifo ar y System Cyhoeddi Lwfansau felly ni fydd yn ymddangos wrth chwilio’r bas data.
Beth yw terfynau’r Lwfansau ar gyfer 2008/2009 ?
Lwfans Costau Swyddfa: £15,000
Caiff yr Aelodau hawlio lwfans ychwanegol am gostau dodrefnu a chynnal a chadw swyddfa i’w cynorthwyo yn eu gwaith fel Aelod CynulliadLwfans Cost Ychwanegol: Cyfradd Isaf £4,100 – Cyfradd Uchaf £13,000
Caiff yr Aelodau hawlio lwfans ychwanegol am dreuliau a ddigwyddodd tra yr oeddent yn aros dros nos, i ffwrdd o’u prif gartref at ddibenion gwneud eu dyletswyddau fel Aelod Cynulliad. Mae dwy lefel wahanol o Lwfans Costau Ychwanegol yn dibynnu ar leoliad cartref yr Aelod. Mae’r rhai sy’n byw o fewn etholaethau Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Pontypridd a Bro Morgannwg yn cael y gyfradd isaf ac mae pawb arall yn cael eu talu ar y gyfradd uchaf .Lwfans Costau Teithio:
Caiff Aelodau hawlio am dreuliau teithio a ddigwyddodd tra yr oeddent ar fusnes y Cynulliad. Disgwylir i Aelodau deithio gyda’r dull mwyaf cost effeithiol, gan ystyried gwir gost teithio a chost unrhyw aros dros nos. Y cyfraddau fesul milltir sy’n daladwy pan ddefnyddir trafnidiaeth yr Aelod ei hun yw: Cyfraddau Milltiroedd: Milltiroedd mewn Car:40c y filltir hyd at 10,000 o filltiroedd ac yna 5c y filltir Beic Modur:24c y filltir Beic:20c y filltir Caiff Aelodau’r Cynulliad hefyd hawlio lwfans staffio. Fodd bynnag, gan fod y wybodaeth hon yn cynnwys manylion cyflogau ar gyfer staff Aelodau’r Cynulliad ni allwn gyhoeddi manylion fesul yr aelod staff oherwydd rheolau Gwarchod Data.
Pam na allaf weld manylion llawn pob hawliad?
Lle y byddai datgan manylion hawliad yn golygu datgelu gwybodaeth bersonol sensitif neu’n achosi risg posibl i ddiogelwch yr Aelod (ee gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad cartref, manylion teithiau rheolaidd neu fanylion am gyflwr meddygol) bydd cyfeiriad at y manylion wedi’u dileu rhag cael eu datgelu.
Mae hyn yn ofynnol yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel y’i diwygiwyd Gorchymyn Rhyddid Gwybodaeth (y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) 2008.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Teithiau Rheolaidd a Theithiau nad ydynt yn Rheolaidd?
Bydd taith yn cael ei thrin fel taith reolaidd os gwneir hi o un pen y daith ac yn ôl, nifer o weithiau o fewn blwyddyn ariannol. Yn aml, bydd y rhain yn deithiau a wneir dro ar ôl tro o’r Cynulliad yng Nghaerdydd i etholaethau cartref yr Aelod neu ar Fusnes y Cynulliad i rywle arall (ee teithiau o fewn etholaeth Aelod).
Ni fydd taith yn daith reolaidd os nad yw o fewn y disgrifiad uchod, pan fyddai manylion y daith yn cael eu datgelu.
Beth mae treuliau Prydau Bwyd/ Cynhaliaeth yn ei olygu?
Fel y nodir yn y Penderfyniad, gall Aelodau hawlio cyfradd safonol o £30.65 am fynd i dreuliau wrth aros dros nos i ffwrdd oddi wrth y prif gartref at ddibenion gwneud eu dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad. Cyfeirir at hyn fel Prydau Bwyd/Cynhaliaeth yn y Disgrifiadau o Wariant.
Pam bod rhai hawliadau ar gyfer symiau mewn enw’n unig?
Ymhellach i’w Lwfansau sefydlog, mae gan Aelodau’r Cynulliad fynediad hefyd at Wasanaethau Mewnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau megis Cyfieithu rhwng yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg, yr Uned Gopïo a maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Mae darpariaethau ar waith i dalu costau sylfaenol pob Aelod o fewn pob maes gwasanaeth. Er enghraifft, caiff Aelodau hawlio £400 am gyfieithu mewnol, yn ogystal â’r hwylustod o ddefnyddio cyfleusterau argraffu Ystafell Gopïo Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyhyd â bod y deunyddiau’n cydymffurfio â chanllawiau’r Cynulliad. Telir hwn drwy’r Costau Canolog neu Gostau Swyddfa’r Aelod Cynulliad, yn dibynnu beth yw’r eitem a gynhyrchir.
Darperir y £50 cyntaf eu costau misol am ddefnyddio’r teclyn Blackberry i Aelodau’r Cynulliad. Fodd bynnag, bydd unrhyw swm ychwanegol dros £50 yn cael ei godi ar yr Aelod yn awtomatig. Pan ddigwydd hyn dim ond y swm dros £50.00 a fydd yn ymddangos ar yr hawliad.
ee Os codir £50.16 ar Aelod Cynulliad am ddefnyddio’i Blackberry ym mis Ionawr 09, byddai Gwasanaeth TGCh Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awtomatig yn talu’r £50 cyntaf. Felly byddai’r gost ychwanegol o 0.16p yn cael ei godi ar yr Aelod.
Pam bod Aelod Cynulliad yn ymddangos ei fod wedi gwario y tu hwnt i’w Hawl i Lwfansau (Hawliau Trosglwyddo Arian)?
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl i Aelodau’r Cynulliad drosglwyddo arian o un gyllideb i gyllideb arall – gelwir hyn yn ‘hawl trosglwyddo arian’.
A ganiateir i Aelodau ‘drosglwyddo dynodiad’ eu cartrefi?
Na – er y caniateir i Aelodau hawlio costau cynnal ail gartref, rhaid i'r ail gartref fod o fewn pum milltir i’r Cynulliad. Ni all Aelod ‘drosglwyddo’ dynodiad yr ail gartref rhwng ei gartref yng Nghaerdydd a’i gartref yn ei etholaeth.
A yw Lwfansau’r Aelodau’n cael eu trethu?
Mae darpariaethau trethu gwahanol yn perthyn i elfennau gwahanol o Lwfansau’r Aelodau. Mae’r Aelodau’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn datgan unrhyw fuddiannau trethadwy a dderbyniant .
Sut y caiff y ffigurau eu harchwilio?
Caiff y ffigurau eu harchwilio’n flynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses, yr arferion a’r gweithdrefnau’n gywir. Mae cymodi mewnol hefyd yn digwydd yn fisol i sicrhau cywirdeb y data a gonestrwydd ariannol.
Pwy y dylwn gysylltu â hwy i gael rhagor o wybodaeth?
Os ydych yn aelod o’r cyhoedd a bod gennych gwestiwn am y System Lwfansau cysylltwch â swyddfaffioedd@wales.gov.uk
Os ydych yn aelod o’r wasg cysylltwch â Swyddfa’r Wasg os gwelwch yn dda (manylion pellach ar gael ar wefan cynulliadcymru.org )
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r treuliau a gyhoeddwyd bydd yn rhaid i chi gwblhau cais Rhyddid Gwybodaeth. Dylech glicio yma i wneud hyn.
