Y Panel Adolygu Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau’r Cynulliad
Y Panel
Sefydlwyd y Panel Adolygu Annibynnol gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Awst 2008 i edrych ar yr holl agweddau ar gymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad; gan gynnwys cyflogau a lwfansau am drefniadau teithio, llety, swyddfeydd etholaethau a staff cymorth.
Cadeiriwyd y panel gan Syr Roger Jones, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Aelodau eraill y panel oedd y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, Nigel Rudd, a Jackie Nickson.
Cynhaliodd y panel adolygiad o’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad gan edrych ar arfer gorau; derbyn tystiolaeth am faterion perthnasol; ac ymgynghori â chyrff a rhanddeiliaid perthnasol a’r cyhoedd.
Lluniodd y panel adroddiad, yn dwyn y teitl ‘Yn Gywir i Gymru’, a oedd yn cynnwys cyfres o awgrymiadau a fydd yn creu proses deg, gyfiawn a thryloyw o roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.
I archebu fersiwn printiedig o'r adroddiad, anfonwch ebost at independentreviewpanel@wales.gov.uk
Derbyniodd y Comisiwn bob un o’r 108 awgrym yn llawn ar 7 Gorffennaf 2009 a gwnaeth y Llywydd ddatganiad ar hynny yn ystod y Cyfarfod Llawn y diwrnod canlynol.

