Bwrdd Taliadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu Bwrdd Taliadau annibynnol.  Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad adnoddau teg a phriodol i wneud eu gwaith hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.

Sefydlwyd y Bwrdd drwy basio Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, a sefydlu’r Bwrdd hwn oedd un o 108 o argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2009.

Gwybodaeth

Bwrdd Taliadau : (L-R)  Sandy Blair, Monojit Chatterji, George Reid (chair), Mary Carter, Stuart Castledine

Cyhoeddodd y Bwrdd ei adroddiad cyntaf, Addas i’r Diben, a’i Benderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ym mis Mawrth 2011. Mae datganiad i’r wasg ar gael yma.

Ar y 14eg o Orffennaf 2011, cyhoeddodd y Bwrdd Taliadau ei ail adroddiad, Taliadau Deiliaid Swyddi, a’i Benderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau diwygiedig. Ceir datganiad i’r wasg yma

Ar 9 Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Bwrdd Taliadau ei adroddiad blynyddol cyntaf.  


Y Bwrdd Taliadau

(L-R) Sandy Blair, Monojit Chatterji, George Reid (chair), Mary Carter, Stuart Castledine

Gwybodaeth am y Bwrdd

Gwybodaeth am y Bwrdd, gan gynnwys bywgraffiadau, fideos a datganiadau i’r wasg

Gwybodaeth

Cyfarfodydd y Bwrdd

Mae agendâu a chofnodion holl gyfarfodydd y Bwrdd Taliadau i’w cael yma.
Cyfarfodydd y Bwrdd

Cysylltwch â’r Bwrdd Taliadau

Os hoffech gysylltu â’r Bwrdd Taliadau Annibynnol, gallwch anfon e-bost neu lythyr at:
Taliadau@cymru.gov.uk
Clerc y Bwrdd Taliadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Partneriaid a Help